web analytics

Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360

360 Beach & Watersports Centre, Swansea

Canolfan chwaraeon adrenalin newydd sbon ym Mae Abertawe i bob oed a gallu.
Mae Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 yn gyfleuster amlgamp unigryw yng nghanol Bae Abertawe, adnodd naturiol trawiadol sy’n addas ar gyfer gweithgareddau ar y tir a’r môr. Agorodd y ganolfan ym mis Medi 2012 ac mae’n cynnig cyfleoedd i unigolion a grwpiau o bob oed a gallu gymryd rhan mewn amrywiaeth o gampau a gweithgareddau.
Os ydych am roi cynnig ar weithgaredd am y tro cyntaf, am wella’ch sgiliau a’ch gallu neu eisoes yn athletwr cymwys, mae gan 360 rywbeth i chi. Gyda bar-caffi trwyddedig, mae 360 hefyd yn cynnig y lleoliad perffaith i ymlacio gyda ffrindiau a mwynhau golygfeydd panoramig trawiadol o’r bae. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360.

360 Beach & Watersports Centre map

 

Gweld yr holl chwaraeon dŵr sydd ar gael yn Abertawe a’r Mwmbwls.

This post is also available in: English